Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Gwaith dilynol ar yr adroddiad Cadernid Meddwl

MOM: 28

Ymateb gan: Comisiynydd Plant Cymru  

___________________________________

 

National Assembly for Wales
Children, Young People and Education Committee

Follow-up on the Mind over Matter report

MOM 28

Response from: Children’s Commissioner for Wales

______________________________________

 

 

 

 

Materion Cyffredinol

Prif argymhelliad (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud lles a gwydnwch emosiynol a lles a gwydnwch meddwl ein plant a’n pobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig. Dylai’r statws hwn gynnwys ymrwymiad i:

·         ddarparu adnoddau digonol sydd wedi’u neilltuo i’n hysgolion ddod yn ganolfannau cymunedol o gefnogaeth draws-sector a thraws-broffesiynol ar gyfer gwydnwch emosiynol a lles meddwl. Ni all ysgolion ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn eu hunain - mae cefnogaeth asiantaethau statudol eraill a’r trydydd sector, yn enwedig iechyd, yn hanfodol;

·         sicrhau bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl wedi’i ymgorffori’n llawn yn y cwricwlwm newydd;

·         sicrhau bod pawb sy’n gofalu am blant a phobl ifanc, sy’n gwirfoddoli, neu sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â stigma, hybu iechyd meddwl da a gallu dangos y ffordd at wasanaethau cymorth lle bo angen. Dylai hyn gynnwys gweithio gyda chyrff proffesiynol i ymgorffori hyfforddiant mewn cymwysterau cychwynnol a datblygiad proffesiynol parhaus; a

·         chyhoeddi adolygiad annibynnol bob dwy flynedd o’r cynnydd yn y maes hwn. Dylai’r broses hon gynnwys plant a phobl ifanc drwyddi draw.

 

Argymhelliad A (2019): Mynnodd yr argymhelliad allweddol yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl y dylai llesiant emosiynol ac iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc fod yn flaenoriaeth genedlaethol. Yn ychwanegol at hyn, rydym yn argymell y dylid ymestyn y Rhaglen Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc i helpu i sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn mynediad at wasanaethau cymorth mewn gofal sylfaenol ac eilaidd drwy Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), yn ogystal â chefnogi'r ymagwedd system gyfan. Ein barn ni yw y dylid ymestyn y Rhaglen Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc i gyd-fynd â diwedd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2012-22, strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

O ran gwneud llesiant emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol, credaf y cafwyd tystiolaeth o weithredu cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor ac mae’r sgôr ar gyfer Argymhelliad A, i’m llygaid i, yn gymysgedd o oren a gwyrdd. Credaf ein bod mewn gwell sefyllfa o ran yr ymrwymiad a’r cyfeiriad gan Lywodraeth Cymru nag yr oeddem ddwy flynedd yn ôl.

 

1)    Dull ysgol gyfan

 

Mae’r gwaith ar y dull ysgol gyfan wedi dechrau a darparwyd cyllid i awdurdodau lleol, byrddau iechyd a rhanbarthau weithio tuag at nifer o argymhellion y pwyllgor.

 

2)    Y cwricwlwm newydd

 

Rwy’n falch bod gan y cwricwlwm newydd Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant, a chredaf fod iechyd a llesiant wedi’i wreiddio yn y cwricwlwm newydd oherwydd hynny. Fodd bynnag, rwy’n dal i bryderu am y ffordd y caiff y dull ysgol gyfan ei gysylltu â’r cwricwlwm newydd.

 

3)    Hyfforddiant a mynediad at gyngor arbenigol

 

Rwy’n falch bod hyfforddiant i athrawon yn rhan o’r cynlluniau peilot mewngymorth iechyd meddwl mewn ysgolion a bod adnoddau ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon ac addysg i athrawon newydd gymhwyso yn cael eu datblygu.

 

Ar hyn o bryd, ni welaf fod y cynlluniau gwaith ar gyfer y dull ysgol gyfan yn cynnwys cynlluniau ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

 

Y tu hwnt i staff ysgolion, nid wyf yn fodlon bod cyfleoedd hyfforddiant digonol yn cael eu harchwilio ar gyfer gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

 

4)    Adolygiad bob dwy flynedd

 

Rwy’n falch iawn bod y Grŵp Rhanddeiliaid Ifanc Cenedlaethol llwyddiannus bellach wedi’i sefydlu ers blwyddyn. Rwy’n gobeithio y bydd cyfle i’r grŵp hwn roi gwerthusiad llawn o’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru o’u cymharu ag argymhellion Cadernid Meddwl.

 

5)    Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc

 

Rwy’n falch fod y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc wedi cael ei hymestyn tan o leiaf 2021. Fodd bynnag, mae pryder bod rhaglen newydd Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc wedi mynd ar chwâl o dan y trefniadau newydd. Byddaf yn ceisio sicrwydd bod fframwaith llywodraethu ar waith i oruchwylio’r ddarpariaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn ei chyfanrwydd.

1)    Dull ysgol gyfan

 

Dylai pob ysgol gael mynediad i fframwaith a fydd yn eu cefnogi i ddatblygu eu dull ysgol gyfan. Bydd hwn yn cynnwys integreiddio â gwasanaethau yn eu cymuned, gan gynnwys gwasanaethau ieuenctid, mentrau cymorth i deuluoedd ac ymyriadau llesiant. Ar hyn o bryd, nid yw’n glir sut y bydd y dull system gyfan yn cael ei drefnu. Credaf felly fod gofyn rhoi sail statudol i’r fframwaith er mwyn sicrhau y caiff ei weithredu’n llawn.

 

2)    Y cwricwlwm newydd

 

Ni ddylai ysgolion deimlo wedi’u gorlwytho gan y canllawiau lluosog newydd y mae’n rhaid eu gweithredu. Yn hytrach, dylent gael cefnogaeth i gysylltu cynnwys y cwricwlwm yn gydlynus â’r canllawiau ar y dull gweithredu ysgol gyfan newydd a dogfennau perthnasol eraill fel canllawiau gwrth-fwlio, canllawiau atal hunanladdiad a hunan-niwed, a’r côd anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

 

3)    Hyfforddiant a mynediad at gyngor arbenigol

 

Dylai pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc dderbyn hyfforddiant (fel isafswm, dylai’r  hyfforddiant hwn gynnwys hyfforddiant ymlyniad, a hyfforddiant sylfaenol i ddelio gyda phobl ifanc mewn trallod).

 

Dylai athrawon a staff ysgolion wybod bod gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ar gael ar ben arall y ffôn pan fydd arnynt angen cyngor cyffredinol neu gymorth gyda pherson ifanc penodol, os bydd hynny’n briodol. Dylai’r sefyllfa hon ddigwydd cyn bod atgyfeiriad yn cael ei wneud at CAMHS, lle bydd hynny’n briodol.

 

4) Adolygiad bob dwy flynedd

 

Dylai plant a phobl ifanc gyfrannu’n weithredol o ran dadansoddi cynnydd Llywodraeth Cymru, trwy’r Grŵp Rhanddeiliaid Ifanc Cenedlaethol. Dylid rhoi’r cyfle iddynt herio Llywodraeth Cymru a’i dwyn i gyfrif am argymhellion Cadernid Meddwl.

 

5)   Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc

 

Erbyn Ebrill 2021, dylem fod wedi derbyn sicrwydd y bydd y rhaglen yn parhau tan 2022 yn unol â graddfeydd amser Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, gan fod etholiadau’r Senedd yn digwydd ym mis Mai 2021, dylai’r rhaglen fod wedi cyflawni set o ganlyniadau ar draws y tri maes y mae ganddi gyfrifoldeb uniongyrchol drostynt.

1)    Dull ysgol gyfan

 

Mae’n hanfodol bwysig bod ysgolion yn derbyn cymorth i gael hyd i ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth ar eu cyfer. Ni fydd ganddynt yr adnoddau i graffu ar y sylfaen o dystiolaeth a chwilio am yr ymyriadau lluosog posibl sydd ar gael iddynt. Dylai’r llywodraeth weithio i gynnig rhaglenni seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion heb ychwanegu at eu costau. Rhaid cadarnhau’r atebolrwydd a’r cyfrifoldeb dros weithredu’r fframwaith a rhoi sail statudol iddo.

 

2)    Y cwricwlwm newydd

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ysgolion yn cael map clir o’r dirwedd newydd a bod yr adnoddau y mae eu hangen arnynt (fel cronfa ddata o ymyriadau dull ysgol gyfan seiliedig ar dystiolaeth) ar gael yn hygyrch iddynt.

 

O dan y ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch y cwricwlwm, bydd gan Weinidogion Cymru bŵer i ddileu meysydd dysgu a phrofiad ac rwy’n poeni y gallai’r maes dysgu a phrofiad Iechyd a Llesiant llai traddodiadol fod mewn sefyllfa fregus os bydd newid gwleidyddol. Mae hyn yn cryfhau’r angen am  gynnwys dyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn neddfwriaeth y cwricwlwm newydd. Byddai hynny’n ei gwneud yn anoddach dileu’r maes dysgu a phrofiad hwn sy’n cyd-fynd ag arddel hawliau plant.

 

3)    Hyfforddiant a mynediad at gyngor arbenigol

 

Dylai Addysg Gychwynnol i Athrawon a hyfforddiant i Athrawon Newydd Gymhwyso gael eu cyflwyno fesul cam ar draws Cymru.

 

Dylai’r hyn a ddysgwyd yn sgîl y cynllun peilot Mewngymorth, cynlluniau peilot y dull ysgol gyfan ac ymyriadau eraill sy’n cynnig hyfforddiant, lywio’r rhaglenni hyfforddiant a gyflwynir fesul cam ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus staff presennol ysgolion.

 

4)    Adolygiad bob dwy flynedd

 

Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu’n weithredol â phlant a phobl ifanc trwy’r Grŵp Rhanddeiliaid Ifanc Cenedlaethol a sicrhau bod y Grŵp hwn yn cyd-gynhyrchu adolygiad o gynnydd y gwaith i wella’r ddarpariaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.

 

5)    Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc

 

Dylai’r Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc bennu canlyniadau gan dybio y bydd y rhaglen yn rhedeg tan Ebrill 2021, gan na allwn ragweld a fydd llywodraeth newydd yn parhau â’r rhaglen ar ôl Mai 2021 neu beidio.

 

Mae’n hanfodol bwysig bod y rhaglen wella gyfan yn cael ei goruchwylio ar draws maes iechyd meddwl plant a phobl ifanc, nawr bod rhywfaint o’r meysydd gwaith a arferai fod yn rhan o’r rhaglen bellach yn rhan o gyfrifoldebau asiantaethau eraill. Bydd angen rhoi fframwaith atebolrwydd unswydd ar waith i sicrhau bod hynny’n digwydd. Byddaf yn monitro’r sefyllfa hon yn ofalus ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn fy sicrhau y bydd corff o’r fath yn bodoli o dan y strwythur newydd.

 

Y cwricwlwm newydd

Argymhelliad 1 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi, cyn pen tri mis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad hwn, fap llwybr o sut y bydd iechyd (o dan arweiniad y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc) ac addysg (o dan arweiniad Iechyd a’r maes Profiad Dysgu Iechyd a Lles) yn gweithio gyda’i gilydd i lywio’r cwricwlwm newydd. Dylai’r map llwybr hwn gynnwys cerrig milltir clir a nodi’r asiantaethau neu’r unigolion sy’n gyfrifol am eu cyflwyno.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Roedd yn dda gweld bod tîm y dull ysgol gyfan yn cynnwys swyddogion addysg a swyddogion iechyd a bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y dull ysgol gyfan yn cael ei gadeirio ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd a’r Gweinidog Addysg. Fodd bynnag, ni chefais fy argyhoeddi bod iechyd ac addysg yn cydweithio yn ôl y disgwyl.

 

I roi enghraifft, mae aelodaeth y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid ar y dull ysgol gyfan yn cynnwys gweithwyr addysg proffesiynol, ond mae’n deg i ddweud mai swyddogion iechyd yn bennaf sy’n arwain y grŵp ac mewn cyfarfodydd diweddar gwelwyd diffyg cynrychiolaeth o ran gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn yr ysgolion eu hunain.

 

O ystyried pwysigrwydd difrifol a derbyniol iechyd a llesiant fel Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd, byddwn yn disgwyl gweld cysylltiad agos rhwng gwaith y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a thîm y dull ysgol gyfan, a gwaith y rhai sy’n datblygu’r cwricwlwm newydd. Roeddwn i’n falch o weld bod y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid wedi sefydlu is-grŵp ar gysylltiadau â’r cwricwlwm ond nid wyf wedi gweld digon o dystiolaeth bod y darnau hyn o waith yn gweithio gyda’i gilydd.

Hoffwn weld yr integreiddio a amlygwyd gan dîm y dull ysgol gyfan a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei adlewyrchu ymhellach ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, a bod y gwaith hwn yn cynnwys swyddogion sy’n ymwneud â gwaith y gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau ieuenctid, ac eraill, yn ogystal â gwaith iechyd ac addysg.

Dylai Llywodraeth Cymru roi strwythurau ar waith i sicrhau bod swyddogion yn gweithio ar y dull system gyfan mewn timau ar y cyd, a sicrhau bod y grwpiau a gaiff eu creu i fynd i’r afael â’r agenda hon yn cynnwys cynrychiolwyr addysg a iechyd ar draws sectorau.

Mesur llesiant mewn ysgolion

Argymhelliad  2 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r gwaith o wella mesur lles mewn ysgolion o fewn y fframwaith arolygu er mwyn llywio gweithgareddau a pherfformiad. Dylai’r gwaith o ddatblygu’r mesurau hyn gynnwys pob rhanddeiliad perthnasol i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac nad ydynt yn arwain at ganlyniadau anfwriadol. Yn bwysicaf oll, dylai plant a phobl ifanc fod yn rhan o’r broses o baratoi’r mesurau hyn i sicrhau eu bod yn gofnod cywir o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar eu lles. Dylai’r mesurau hyn fod ar gael o fewn chwe mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn, neu fod yn rhan o adroddiad yr adolygiad annibynnol o oblygiadau’r rhaglen ddiwygio addysgol yng Nghymru ar gyfer rôl Estyn yn y dyfodol, pa un bynnag yw’r cynharaf.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Ym Mehefin 2019, cyhoeddodd Estyn ei adolygiad thematig ‘Iach a Hapus’ a oedd yn argymell bod ysgolion yn ‘datblygu ymagwedd drefnus ysgol gyfan sy’n cefnogi iechyd a llesiant pob disgybl’ ac yn ‘cyfrif yn well am farn disgyblion ac ymchwil academaidd wrth ddatblygu eu dulliau o gefnogi iechyd a llesiant disgyblion’.

 

Mae pecyn adnoddau hunanwerthuso Llywodraeth Cymru yn cynnwys llinyn lles ac mae’r fframwaith atebolrwydd drafft yn gofyn bod ysgolion yn defnyddio set ehangach o ddata i asesu eu holl waith, gan gynnwys llesiant.

 

Hyd yn hyn, nid yw plant a phobl ifanc wedi cael ymwneud digon â’r broses hon.

 

Byddai rhoi sail statudol i fframwaith y dull ysgol gyfan, ochr yn ochr â chynnwys y cwricwlwm newydd, yn rhoi strwythur clir ar gyfer mesur gweithgaredd a pherfformiad.

Mae angen bod gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr addysg proffesiynol yn datblygu iaith gyffredin ynghylch ystyr llesiant. Dylai hynny gynnwys cytuno ar ganlyniadau ar gyfer ysgolion.

 

Fel y nodwyd yn argymhelliad y pwyllgor, mae’n hanfodol bwysig bod plant a phobl ifanc yn rhan o’r gwaith o bennu a gwerthuso’r canlyniadau hyn ar lefel genedlaethol ac yn eu hysgolion unigol. Mae gwaith ysgolion sy’n defnyddio’r data a ddarparwyd trwy’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion yn enghraifft dda o ysgolion yn penderfynu ar ganlyniadau ac yn datblygu cynlluniau gweithredu er mwyn gweithio tuag atynt. Mae gennym enghreifftiau penodol o ogledd Cymru y byddem yn falch o’u rhannu, yn amodol ar gael caniatâd yr ysgolion. 

Mentrau lles emosiynol a meddyliol mewn ysgolion

Argymhelliad 3 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o’r holl fentrau lles emosiynol a meddyliol sydd ar waith yn ysgolion Cymru, gyda’r bwriad o argymell dull cenedlaethol i ysgolion ei fabwysiadu, yn seiliedig ar arfer gorau. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag ysgolion enghreifftiol fel Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn i ddatblygu elfennau o’r dull cenedlaethol hwn, gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn.

 

Argymhelliad C (2019). I ganlyn Argymhelliad 3 yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y fframwaith gweithredu ar gyfer ysgolion yn cael ei gyhoeddi yn ddi-oed, erbyn mis Rhagfyr 2019. Argymhellir hyn er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn gweithio yn unol â set sylfaenol o egwyddorion mewn perthynas â llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc ac yn cael eu cynorthwyo i wneud hyn. Rydym eisiau i Lywodraeth Cymru fod yn gweithio gydag ysgolion i roi'r canllaw ar waith ac i ddechrau'r broses hunanarfarnu.

 

Argymhelliad 4 (2018). Bod Llywodraeth Cymru, wrth ymgymryd â’r adolygiad yr ydym yn galw amdano yn argymhelliad 3, yn gweithio yn y cyfamser gyda’r Samariaid i ddatblygu eu Rhaglen Datblygu Ymwybyddiaeth Emosiynol a Gwrando (DYEG) i’w defnyddio’n ehangach mewn ysgolion yng Nghymru. Yn amodol ar ganlyniadau’r gwerthusiad o’r Rhaglen, sydd ar y gweill, dylai Llywodraeth Cymru roi arian i ymestyn y rhaglen i’r sector ysgolion cynradd

 

Argymhelliad 7 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad dros dro i wasanaethau iechyd ac addysg (a chyrff statudol perthnasol eraill) am y gefnogaeth y dylent ei darparu ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl mewn ysgolion. Dylai hyn nodi’r gefnogaeth y dylent ei disgwyl oddi wrth ei gilydd fel gwasanaethau statudol. Dylai’r arweiniad hwn barhau ar waith, a dylai gael ei ariannu’n ddigonol, hyd nes y caiff canfyddiadau’r cynlluniau peilot mewngymorth eu cyfleu i ni ac i eraill. Dylai’r arweiniad gael ei gyhoeddi cyn pen tri mis ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad a’i adolygu ar ôl i’r rhaglenni peilot mewngymorth ddod i ben.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Rwy’n falch o weld bod y fersiwn ddrafft o fframwaith y dull ysgol gyfan yn cynnwys y ‘cam gweithredu’ allweddol canlynol:

 

Wrth ddarparu ymyriadau cyffredin i blant ac ymyriadau wedi’u targedu, neu unrhyw ymyriadau sydd â’r nod o wella gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon neu eu lles eu hunain, bydd ysgolion yn sicrhau na fyddant ond yn darparu ymyriadau sydd â sylfaen dystiolaeth gadarn neu ddatblygol. Yn hyn o beth, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cronfa o adnoddau ac ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth ac adnoddau datblygu proffesiynol parhaus ar gyfer staff y gall ysgolion eu mabwysiadu i ategu’r canllawiau hyn.  

 

Rwy’n gobeithio y bydd y pecyn adnoddau hwn yn darparu cronfa ddata mor hygyrch â phosibl i ysgolion, gan na fydd yr adnoddau ganddynt i nodi sylfeini tystiolaeth eu hunain heb gymorth.

 

Dylai ysgolion allu cyrchu ‘dewislen’ i fodloni set o ganlyniadau mewn dull ysgol gyfan. Dylai’r dewisiadau hyn gynnig amrywiaeth er mwyn i ysgolion allu dewis yr ymyriadau a fydd yn addas iddyn nhw yn lleol ac yn ymatebol i anghenion yr ysgol.

 

Dylai’r agweddau ar y dull ysgol gyfan sy’n gyfystyr ag ymyriadau neu raglenni fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n bosibl na fydd agweddau eraill, fel cynnwys disgyblion ac ystafelloedd llesiant wedi bod yn destun rhaglenni ymchwil trylwyr ond bydd Estyn wedi cydnabod eu bod yn cyfrannu o ran creu amgylchedd cadarnhaol mewn ysgol.

 

Mae unigolion a chwmnïau yn cysylltu â’m swyddfa yn rheolaidd i gynnig ystod eang o raglenni a gwasanaethau sydd â’r nod o gefnogi llesiant disgyblion ac rwy’n rhagweld y byddant yn cysylltu’n uniongyrchol ag ysgolion hefyd. Mae’n rhaid ei bod yn anodd i arweinwyr ysgolion wybod pa raglenni sy’n gweddu orau i’w hanghenion, pa rai sydd â hanes o lwyddo ac a oes dewisiadau tebyg eraill ar gael. Felly, mae’r ddewislen yn bwysig er mwyn sicrhau bod arweiniad ar gael i arweinwyr ysgolion wrth iddynt wneud y dewisiadau hyn er lles eu disgyblion.

Dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor o waith gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i gael gwybod pa ymyriadau sydd ar gael ar draws Cymru, a’u sylfeini tystiolaeth. Dylai’r gwaith hwn gysylltu â’r ‘Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol’ a sefydlir gan Lywodraeth Cymru yn rhan o ddatblygu dysgu proffesiynol mewn Addysg.

 

Yna, dylent greu cronfa ddata o’r ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth y gall ysgolion gael mynediad hwylus iddynt, gan adlewyrchu’r hyn sydd ar gael yn lleol. Dylid mapio’r ymyriadau hyn yn erbyn canlyniadau’r fframwaith newydd er mwyn cynnig dewis o ymyriadau i ysgolion a fydd yn ateb anghenion amrywiol eu disgyblion.

 

Mae angen ystyried sut mae ymyriadau llesiant yn cyd-fynd ag ymyriadau eraill, er enghraifft, cymorth i ddysgwyr â mathau penodol o ADY. Mae hyn yn bwysig gan fod plentyn unigol yn aml yn cymryd rhan mewn ymyriadau gwahanol ar yr un pryd, felly mae angen i’r rhain fod yn drefnus a gweithio’n dda gyda’i gilydd.

 

Deallwn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu pecyn o ganllawiau hawdd eu defnyddio a fydd ar gael ar y we i helpu ysgolion ac ymarferwyr i nodi dulliau perthnasol, wedi’u llywio gan dystiolaeth sy’n hyrwyddo iechyd meddwl a lles emosiynol ymhlith dysgwyr. Byddaf yn dilyn hynt a helynt y pecyn adnoddau hwn yn ofalus.

 

Cwnsela mewn ysgolion

 

Argymhelliad 6 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn asesu ansawdd y cwnsela statudol sydd ar gael mewn ysgolion, yn enwedig sut mae’r gwasanaeth yn ymdopi â’r galw cynyddol, yn mynd i’r afael â stigma ac yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc. Dylai hyn gynnwys ystyried darparu cymorth cwnsela ar-lein a’r tu allan i wersi / ysgol, ac i’r rheini sy’n iau nag 11 oed.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Rwy’n croesawu’r fersiwn ddrafft newydd o’r gwasanaethau pecyn cymorth cwnsela yn yr ysgol ac yn y gymuned a ddatblygwyd ar y cyd â Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, sy’n rhoi lle blaenllaw i astudiaethau achos pobl ifanc.

 

Fodd bynnag, nid yw’r pecyn cymorth hwn yn rhoi sylw i’r mater gwaelodol sef bod darpariaeth gwasanaethau cwnsela a mynediad iddynt yn annheg ar draws Cymru.

 

Gwelir yn rhy aml nad yw gwasanaethau cwnsela ar gael i blant a phobl ifanc pan fydd eu hangen arnynt. Mae loteri côd post ar draws Cymru o ran niferoedd y plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu cwnsela a’r gwelliant a ddisgrifir o ran trallod seicolegol, fel y gwelir yn nata diweddaraf Llywodraeth Cymru.[1]

 

Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad diweddar y bydd gwasanaethau cwnsela’n cael eu cynnig i grŵp blwyddyn ychwanegol (blwyddyn 5).

 

Dylai pob plentyn neu berson ifanc yng Nghymru allu cael mynediad i gwnsela pan fydd ei angen arnynt, naill ai yn yr ysgol, ar-lein neu yn y gymuned, pa un bynnag sydd orau ganddynt. Dylai gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol gael eu hysbysebu’n fwy effeithiol ac mewn dull sydd mor rhydd o stigma â phosibl.

Gwerthusiad trylwyr o’r ddarpariaeth a’r mynediad ar draws Cymru, a chamau gweithredu canlyniadol i fynd i’r afael â hyn er mwyn cydymffurfio’n briodol â’r gofyn bod awdurdodau lleol yn darparu’r gwasanaeth hwn i bob disgybl ysgol uwchradd a phobl disgybl blwyddyn 6 (a blwyddyn 5 bellach).

 

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ehangu’r ddyletswydd hon i gynnwys plant iau, os bydd angen gwasanaeth cwnsela arnynt. Ni ddylai plant iau gael eu heithrio os oes gwir angen cwnsela arnynt.

Staff mewn ysgolion

Argymhelliad 5 (2018).  Bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu gwaith mapio i ganfod argaeledd staff nad ydynt yn addysgu mewn ysgolion i gefnogi iechyd a lles emosiynol ac iechyd meddwl, a’r lefel ddisgwyliedig o angen yn y dyfodol. Dylai’r gwaith hwn amlinellu sut i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.

 

Argymhelliad 8 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn cynnal cynllun peilot o rôl "athro cyfarwyddyd" yng Nghymru, neu fabwysiadu model arall sy’n dyrannu cyfrifoldeb dros iechyd emosiynol ac iechyd meddwl disgyblion i aelod arweiniol o staff addysgu neu staff nad ydynt yn addysgu.

 

Argymhelliad B (2019). Er mwyn sicrhau bod gan holl staff ysgolion ddealltwriaeth ddigonol o lesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu - fel mater o flaenoriaeth - rhaglen o hyfforddiant gorfodol ar gyfer staff newydd a phresennol ysgolion.

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Disgwylir cyhoeddi adroddiad interim rhaglen beilot Mewngymorth yn fuan iawn. Rwy’n deall o’r sgyrsiau a gefais y bydd y rhaglenni peilot yn darparu gwersi defnyddiol o ran sut gallwn ni gefnogi ac arfogi’r gweithlu ysgolion yn well er mwyn cefnogi iechyd a llesiant emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc.

 

Dylai pob ysgol yng Nghymru gael rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant ar gyfer eu staff a chael cyswllt â gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a all gynnig cyngor a chymorth.

Mae angen adolygu’r gwersi a ddysgwyd o’r rhaglenni peilot a rhoi cynlluniau gwella ar waith ar draws Cymru.

Gofal iechyd sylfaenol

Argymhelliad 9 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cynnydd o ran data rheoli mewn perthynas ag amseroedd aros gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol (LPMHSS) ar gyfer asesu ac ymyraethau ar gyfer plant a phobl ifanc ers cychwyn darpariaethau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar gael.

 

Argymhelliad 10 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun gwella ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol (LPMHSS) lleol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Dylai hyn ddarparu asesiad o’r lefelau presennol o ddarpariaeth, y galw a ragwelir am wasanaethau dros y 5-10 mlynedd nesaf, a’r lefel amcangyfrifedig o adnoddau sydd eu hangen i uno’r ddau. Dylai hefyd amlinellu sut y bydd LPMHSS yn ymgysylltu â gwasanaethau statudol a thrydydd sector eraill, ac yn darparu’r gwasanaethau cymorth canolraddol mwyaf hygyrch, priodol ac amserol i gau’r bwlch rhwng cymorth ar gyfer gwydnwch emosiynol ar y naill law, a CAMHS arbenigol ar y llall. Dylai’r cynllun gwella amlinellu’n glir y llwybrau sydd ar gael i blant a phobl ifanc fel bod y mynegbyst i bob lefel o wasanaeth, a rhyngddynt, yn fwy eglur ac yn symlach. Dylai gyfeirio’n benodol at sut y dylai LPMHSS gysylltu ag ysgolion.

 

Argymhelliad F (2019). I ganlyn Argymhellion 9 a 10 yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl, rydym yn disgwyl derbyn copi o adolygiad Uned Gyflawni'r GIG o Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, yn ogystal â chynlluniau gwella'r Byrddau Iechyd, yn ystod yr haf (2019). Bydd cyhoeddi'r wybodaeth hon yn helpu i ddarparu gwell dealltwriaeth o’r cwestiwn a oes digon o gapasiti yn y system CAMHS gofal sylfaenol. Rydym hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data mewn perthynas â pherfformiad Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol cyn gynted â phosibl.

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Nid oedd Adolygiad yr Uned Gyflawni ar gael i mi felly mae’n anodd i mi gynnig sylwadau.

 

 

 

Llwybrau gofal

Argymhelliad 11 (2018): Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau:

·         bod llwybrau cyson ar gyfer pob gwasanaeth CAMHS arbenigol, yn seiliedig ar y meini prawf atgyfeirio cenedlaethol – unwaith y cytunir arnynt – yn cael eu gweithredu gan bob bwrdd iechyd (ac asiantaethau cysylltiedig lle bo hynny’n berthnasol) yng Nghymru o fewn chwe mis i’r adeg y caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi; Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru

·         bod safonau diffiniedig yn cyd-fynd â phob llwybr er mwyn gallu mesur pob bwrdd iechyd a’u meincnodi’n gyson; a

·         bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd fel bod modd dwyn byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i gyfrif am berfformiad mewn ffordd dryloyw a gwybodus.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Hyd y gwn i, ni wnaed fawr o gynnydd o ran tryloywder ar fater llwybrau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Byddai mwy o dryloywder yn sicr yn llesol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, er mwyn gallu rheoli disgwyliadau’n well a bod yn fwy ymwybodol o’r broses y gallant ddisgwyl ei dilyn.

 

Mae fy nhîm Ymchwiliadau a Chyngor yn clywed yn rheolaidd gan deuluoedd sy’n cael trafferth llwybro trwy’r system. Mae fy nhîm innau yn eu tro yn ei chael yn anodd cysylltu â’r tîm CAMHS cywir, gan nad yw’r wybodaeth hon ar gael ar-lein fel mater o drefn. Mewn enghraifft ddiweddar a dynnwyd i sylw’r bwrdd iechyd, dim ond cyfeiriadau e-bost oedd ar gael ar-lein, heb yr un rhif ffôn. Mae defnyddio e-bost yn gallu bod yn anodd iawn i rai teuluoedd a byddai’n well ganddynt gael rhif ffôn.

 

Fodd bynnag, gwelwyd rhywfaint o gynnydd mewn rhai ardaloedd. Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyd-gynhyrchu cynnwys eu gwefan CAMHS arbenigol gyda phobl ifanc, ac mae’r wefan bellach yn nodi sut mae cael gafael ar wasanaethau CAMHS a beth gall pobl ddisgwyl ei gael.

 

Dylai pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru ddarparu adnoddau hygyrch ar-lein sy’n nodi manylion cyswllt clir a hefyd yn egluro mwy am yr hyn y gall plant, pobl ifanc a’u teuluoedd ddisgwyl ei gael o’r broses llwybrau.

Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu’n uniongyrchol â byrddau iechyd lleol i gael gwybod ble mae pob bwrdd arni o ran yr agenda hon a sut mae sicrhau llwybrau cyson a sicrhau bod gwybodaeth am y broses ar gael ar ffurf hawdd ei deall i blant a phobl ifanc, a’u teuluoedd.

Y 'canol coll'

Argymhelliad 12 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu fel mater o frys, ac o fewn tri mis i ddyddiad cyhoeddi’r adroddiad hwn, sut y mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan y grŵp o blant a phobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer CAMHS arbenigol a lle nad oes gwasanaethau eraill ar gael iddynt – y “canol coll”. Dylai hyn gynnwys:

·         y camau manwl y bydd yn eu cymryd yn ystod y chwe mis nesaf i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu a bod asiantaethau perthnasol yn cael eu dwyn i gyfrif am roi’r camau ar waith; a

·         rhoi cyfrif o’r ystyriaeth a roddwyd i ganolbwyntio’r meini prawf atgyfeirio ar lefelau’r trallod a ddioddefir gan blant a phobl ifanc (gall ei ffynhonnell fod yn ymddygiadol, yn gymdeithasol [gan gynnwys anhwylderau sy’n gysylltiedig ag ymlyniad] a / neu’n feddygol ei natur), yn hytrach nag ar sail diagnosis a ddiffinnir yn feddygol yn unig. Dylai hyn gynnwys ystyried defnyddio’r model “mynydd iâ” o ofal a gyflwynwyd i ni mewn tystiolaeth yn lle’r model “pyramid”.

 

Argymhelliad E (2019). Rydym eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu Argymhelliad 12 yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl ar frys, gan gynnwys cyhoeddi manylion am sut mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r llif gwaith help cynnar a chymorth gwell i leihau'r 'canol coll'. Rydym yn gofyn am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y cynnydd erbyn diwedd mis Hydref 2019.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Rwy’n falch o fod wedi gweld gwaith ar y ‘canol coll’ gan Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc yn ddiweddar. Rwyf hefyd yn falch o weld Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc yn cynnwys meysydd gwaith penodedig newydd sef Cymorth Cynnar a Chymorth Estynedig, a sut gall y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gefnogi’r ‘canol coll’. 

Dylai fod gennym wasanaeth cofleidiol, amlasiantaeth sy’n ymateb i anghenion pobl ifanc yn hytrach nag ymateb i ddiagnosis yn unig. Dylai’r ymateb gynnig cymorth i deulu’r person ifanc hefyd. Ni ddylid gadael yr un plentyn na pherson ifanc heb wasanaeth pan fydd anghenion clir ganddynt.

Rhaid i ni ad-drefnu ein gwasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc a’u teuluoedd sydd mewn trallod. Dylid datblygu modelau hwb, panel neu dimau amlasiantaeth ar draws Cymru a fydd yn ystyried amgylchiadau unigol a  sefyllfaoedd ac ymddygiad y teulu er mwyn llunio dilyniant o ymyraethau i helpu’r bobl ifanc p’un a oes diagnosis ganddynt neu beidio.

 

Gwasanaethau Niwroddatblygiadol

Argymhelliad 13 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun adfer ar unwaith ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â’r amseroedd aros annerbyniol o hir a wynebir gan dros 1000 o blant a phobl ifanc.

 

Argymhelliad I (2019). Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu Argymhelliad 13 yn llawn yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl mewn perthynas â gwasanaethau niwroddatblygiadol. Law yn llaw â hyn, dylai Llywodraeth Cymru:

·         nodi cynllun clir ynghylch sut bydd yn cynorthwyo Byrddau Iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector i ddiwallu anghenion y 40-50 y cant o blant a phobl ifanc yr amcangyfrifir nad ydynt yn cwrdd â'r trothwy ar gyfer diagnosis ond sydd angen rhywfaint o help, i sicrhau nad yw teuluoedd yn cael eu gadael yn teimlo nad ydynt yn cael cymorth;

·         cyhoeddi data rheolaidd ar berfformiad niwroddatblygiadol fel bod rhagor o dryloywder a dealltwriaeth ynghylch a yw Byrddau Iechyd yn cyflawni'r safon amser aros 26 wythnos ar gyfer asesu;

·         darparu manylion pellach am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro perfformiad gwasanaethau niwroddatblygiadol, fel na chaiff blaen-lwytho cymorth ar gyfer asesiadau er mwyn cyrraedd y safon amser aros 26 wythnos ar gyfer asesu ei wneud ar draul darparu ymyriadau yn dilyn asesiad;

·         cyhoeddi canfyddiadau'r gwaith modelu galw a gallu y mae'n ei wneud i sicrhau bod modelau gwasanaeth niwroddatblygiadol effeithiol ar waith ar draws pob rhan o Gymru.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu data rheoli 2018-19 y gwasanaethau niwroddatblygiadol gyda’r pwyllgor, ac mae’r rhain yn dangos bod galw sylweddol am wasanaethau. Er bod rhestrau aros wedi lleihau mewn rhai ardaloedd, mae cyfnodau aros sylweddol o hyd, a phriodolir hynny i’r galw cynyddol am y gwasanaethau hyn.

 

O dan drefniadau newydd Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, mae ffrwd waith benodedig sy’n cefnogi dull system gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol. Croesewir hyn yn fawr iawn, ond rwy’n dal i bryderu bod gwaith newydd Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc wedi tameidio dull ‘system gyfan’ y gwasanaethau niwroddatblygiadol arbenigol.

 

Dylai fod gennym wasanaeth cofleidiol, amlasiantaeth sy’n ymateb i anghenion pobl ifanc yn hytrach nag ymateb i ddiagnosis yn unig. Dylai’r ymateb gynnig cymorth i deulu’r person ifanc hefyd. Ni ddylid gadael yr un plentyn na pherson ifanc heb wasanaeth pan fydd anghenion clir ganddynt.

Rhaid ad-drefnu’r cymorth i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc a’u teuluoedd sydd ag angen gwasanaethau niwroddatblygiadol. Dylid datblygu modelau hwb, panel neu dimau amlasiantaeth ar draws Cymru a fydd yn ystyried amgylchiadau unigol a  sefyllfaoedd ac ymddygiad y teulu er mwyn llunio dilyniant o ymyriadau i helpu’r bobl ifanc p’un a oes diagnosis ganddynt neu beidio.

 

Mesurau perfformiad ansoddol

Argymhelliad 14. Bod Llywodraeth Cymru, cyn pen chwe mis o ddyddiad yr adroddiad hwn, yn blaenoriaethu gwaith i sicrhau bod mesurau perfformiad ansoddol yn cael eu datblygu law yn llaw â’r data presennol am yr amser aros rhwng atgyfeirio ac asesu. Dylai’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd fel y gellir dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif am gyflenwi gwasanaethau a pherfformiad.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Mae’r rhwydwaith CAMHS yn datblygu set ddata graidd newydd ond ni chaiff ei gweithredu’n llawn tan 2022.

 

Croesewir gwelliannau yn yr amser aros rhwng atgyfeirio ac asesu ond mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n deall profiad plant a phobl ifanc o’r gwasanaethau iechyd meddwl, gan nad yw’r amser aros rhwng atgyfeirio ac asesu yn dweud dim wrthym am y ddarpariaeth a/neu’r driniaeth yn dilyn yr asesiad.

Dylai data ansoddol fod ar gael yn hwylus i ni er mwyn i ni allu monitro a deall perfformiad yn iawn. 

 

Gofal argyfwng a gofal y tu allan i oriau

Argymhelliad 15 (2018). Bod Llywodraeth Cymru, o fewn chwe mis i ddyddiad cyhoeddi’r adroddiad hwn, mewn perthynas â gofal argyfwng a gofal y tu allan i oriau:

·         yn gweithio gyda heddluoedd Cymru i ystyried model brysbennu ar gyfer Cymru gyfan a fyddai’n sicrhau bod ymarferwyr iechyd meddwl ar gael yn ystafelloedd rheoli’r heddlu i roi cyngor pan fydd plant a phobl ifanc (a grwpiau oedran eraill, os yn briodol) yn wynebu argyfwng;

·         yn amlinellu sut y gellid cyfeirio adnoddau at alluogi timau argyfwng ym mhob bwrdd iechyd i ddarparu hyfforddiant a rhaeadru arbenigedd i wasanaethau rheng flaen eraill, yn enwedig cydweithwyr mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, mewn ardaloedd ar y gororau (i wella cysylltiadau trawsffiniol â’r canolfannau hynny a ddefnyddir amlaf gan gleifion sy’n byw yng Nghymru ), ac mewn ysgolion (i wneud sgyrsiau am hunanladdiad a hunan-niwed yn benodol yn fater o drefn);

·         yn sicrhau bod y byrddau iechyd yn darparu cymorth dilynol ar ôl rhyddhau, yn darparu gwybodaeth am sut mae’r byrddau iechyd yn monitro’r ddarpariaeth hon, ac yn ymrwymo i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd er mwyn bod yn dryloyw ac yn atebol;

·         yn sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd yn cydymffurfio â’r gofyniad i gadw gwelyau dynodedig y gellid eu staffio’n ddigonol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed mewn argyfwng, sy’n nodi sut y bydd hyn yn cael ei fonitro a sut y bydd adroddiad yn cael ei lunio amdano yn y dyfodol, a pha gamau a gymerir os nad yw gwelyau o’r fath ar gael;

·          yn gweithredu’n gyflym ac mewn ffordd unffurf ar draws y byrddau iechyd i gynnig un pwynt mynediad at wasanaethau arbenigol, er mwyn sicrhau mynediad amserol a phriodol i gymorth, boed yn gymorth brys neu’n gymorth arall; ac

·         yn myfyrio ar ganlyniadau’r adolygiad o ofal argyfwng, yn amlinellu beth yn fwy sydd angen ei wneud i ddarparu gwasanaeth gofal argyfwng 24/7 diogel a chost-effeithiol ym mhob rhan o Gymru, sut y gwneir hynny, ac erbyn pryd.

 

Argymhelliad G (2019).  I ganlyn Argymhelliad 15 yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith brys i ddeall yn well sut a pham mae plant a phobl ifanc yn cael mynediad at gymorth mewn argyfwng/y tu allan i oriau. Mae angen gwelliannau pellach i ofal mewn argyfwng a thu allan i oriau er mwyn helpu i sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael gafael ar gymorth ar unwaith pan fyddant mewn trallod, ar unrhyw adeg. Mae’n rhaid i fynediad at gymorth mewn argyfwng iechyd meddwl fod yn gyson ledled Cymru, a allai olygu bod angen buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo'r Byrddau Iechyd hynny sy'n methu ymestyn eu gwasanaethau ar hyn o bryd.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Yn anffodus, mae’r diffyg gofal argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn cael ei adlewyrchu yn y gwaith achosion sy’n cyrraedd fy swyddfa i pan na fydd gan bobl ifanc mewn argyfwng unman i fynd ond i Unedau Damweiniau ac Achosion Brys.

 

Mae rhywfaint o waith yn cael ei wneud yn rhanbarthol, er enghraifft, yng ngogledd Cymru lle mae cynllun i ddarparu gwelyau tymor byr ‘mewn canolfan asesu a thriniaeth’ ar gyfer plant a phobl ifanc sydd mewn argyfwng.

 

Fodd bynnag, rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod gwella’r gofal argyfwng a’r gofal y tu allan i oriau yn faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yng Nghynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

 

Dylai plant a phobl ifanc mewn argyfwng gael cynnig cymorth amlasiantaeth addas a hygyrch, ble bynnag y byddan nhw yng Nghymru.

Dylai pob bwrdd iechyd gomisiynu gwelyau a gwasanaethau cymorth priodol ar gyfer plant a phobl ifanc, a fydd yn cynnwys gofal argyfwng amlasiantaeth a chymorth y tu allan i oriau.

 

Croesewir dull amlasiantaeth y Concordat a Chynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, nid yw dull y Cynllun Cyflawni yn sôn am anghenion penodol plant a phobl ifanc sy’n cyrchu’r gwasanaethau hyn nac yn cyfeirio at eu hawliau dynol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

 

Mae gwasanaethau gofal argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn tueddu i ganolbwyntio ar oedolion yn hytrach na phlant a phobl ifanc. Bydd angen gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau bod timau’n ymateb yn briodol i’r ystod oedran hon.

 

Mae’n bwysig cydnabod anghenion plant a phobl ifanc yn benodol fel grŵp unigryw ynddynt eu hunain, yn ogystal â chydnabod anghenion unigolion a grwpiau o blant a phobl ifanc.

 

Hunanladdiad

Argymhelliad 16 (2018). Bod Llywodraeth Cymru, mewn perthynas â hunanladdiad yn benodol, yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol:

·         i ddarparu, o fewn tri mis i ddyddiad cyhoeddi’r adroddiad hwn, ganllawiau i ysgolion ynghylch siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio, i chwalu’r syniad y bydd unrhyw drafodaeth yn arwain at ymateb “heintus”;

·          i roi blaenoriaeth i ddarparu canllawiau i ysgolion lle bu hunanladdiad neu amheuaeth o hunanladdiad; ac

·          yn sicrhau bod hyfforddiant iechyd meddwl sylfaenol, gan gynnwys sut i siarad am hunanladdiad, yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus, fel bod yr holl athrawon yn gallu siarad am hynny.

 

Argymhelliad D (2019). I ganlyn Argymhelliad 16 yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob ysgol ac awdurdod addysg lleol yn gweithredu’n llawn y canllawiau ar hunanladdiad a hunan-niweidio sydd i’w cyflwyno ym mis Medi 2019.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Rwy’n falch bod y canllawiau y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu datblygu a’u cyhoeddi, a’u bod yn cynnwys cyngor i athrawon ar ‘gywiro camsyniadau’, awgrymiadau o ran cynlluniau gwersi a siartiau llif ymateb i ymddygiad. Mae hon yn ddogfen bwysig iawn a dylai pob ysgol ac awdurdod lleol ei gweithredu’n llawn.

Dylai pob ysgol a gwasanaeth awdurdod lleol weithredu’r canllawiau hyn ac mae gwaith wedi dechrau i weithredu’r canllawiau ar draws gwasanaethau eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Yn ogystal â gweithio gydag ysgolion, mae’r canllawiau ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys gweithwyr yn y sector gwirfoddol, felly dylai Llywodraeth Cymru fwrw ati i fonitro gweithrediad y canllawiau ar draws pob proffesiwn a phob gwasanaeth gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

 

Gwasanaethau i gleifion mewnol

 Argymhelliad 17 (2018). Bod Llywodraeth Cymru:

·         yn mynd ati fel mater o frys i fynd i’r afael â’r lleihad yng nghapasiti’r uned cleifion mewnol yng ngogledd Cymru; ac

·         yn darparu, yn ei hymateb i’r adroddiad hwn, gynllun gweithredu sy’n manylu ar y cymorth ymarferol y bydd yn ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn i’r uned, erbyn haf 2018, allu ailddechrau darparu’r capasiti a gomisiynwyd ar ei chyfer, sef 12 gwely.

 

Argymhelliad H (2019). I ganlyn Argymhellion 17 a 18 yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl, rydym eisiau gweld camau brys yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r pwysau o ran galw am ofal cleifion mewnol ledled Cymru. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:

·         sicrhau bod y gwaith cyfalaf yn Nhŷ Llidiard wedi ei gwblhau erbyn diwedd haf 2019 a bod yr uned mewn sefyllfa i dderbyn plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad a hunan-niweidio;

·         sicrhau bod y materion staffio yn Abergele yn cael eu datrys ar frys, fel bod yr uned mewn sefyllfa i dderbyn plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad neu hunan-niweidio;

·         archwilio gyda rhagor o frys y dewisiadau ar gyfer creu gallu ychwanegol i dderbyn cleifion mewnol, yn benodol i ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth sydd ar hyn o bryd yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru;

·         rhoi trefniadau mwy effeithiol ar waith ar gyfer 'camu i fyny' neu 'gamu i lawr' rhwng gwahanol lefelau o ymyrraeth;

·         darparu buddsoddiad cyfalaf i helpu i fwrw ymlaen yn gyflymach â rhai o'r cyfleoedd ar gyfer comisiynu mwy integredig mewn perthynas ag iechyd meddwl, llesiant a chyfiawnder ieuenctid.

 

Argymhelliad 18 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau’r adolygiad o gapasiti cleifion mewnol yng Nghymru fel sail:

·         i ddarparu cymaint o wasanaethau mor agos â phosibl i’w cartrefi ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru;

·          i gymryd rhan mewn deialog â GIG Lloegr ynghylch opsiynau ar gyfer creu gwelyau arbenigol iawn i gleifion mewnol a allai wasanaethu poblogaethau bob ochr i’r ffin; ac

·          i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio unrhyw gapasiti sbâr ar gyfer cleifion mewnol ar ystâd y GIG i ddatblygu gwasanaethau “cam-i-lawr” ar gyfer pobl sy’n gadael lleoliadau.

·          

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Gogledd Cymru – deallaf fod mater y capasiti a gomisiynwyd a’r sefyllfa staffio wedi gwella.

 

De Cymru – cafwyd oedi o ran y gwaith cyfalaf a oedd heb ei gwblhau yn Nhŷ Llidiard ond daeth i ben ymhen hir a hwyr erbyn hydref 2019. Nid yw’n glir a fydd y manylebau gwasanaeth newydd yn golygu y bydd pobl ifanc sydd mewn perygl mawr o hunan-niweidio yn gallu cael gofal yn Nhŷ Llidiard.

 

Rwyf hefyd yn bryderus iawn o glywed am oedi o ran derbyniadau brys i Unedau Damweiniau ac Argyfwng os bydd digwyddiad yn yr uned, oherwydd problem heb ei datrys ynghylch defnyddio rhifau ffôn argyfwng mewnol yn Nhŷ Llidiard. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y bwrdd iechyd i ofyn am sicrwydd y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2020.

 

Rwy’n dal i glywed gan weithwyr proffesiynol nad yw’r gwasanaethau ‘camu i fyny’ a ‘chamu i lawr’ yn ddigonol ar gyfer y bobl ifanc hyn.

 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau cyllid newydd wedi’i neilltuo’n benodol ar gyfer darpariaeth breswyl iechyd meddwl a gofal cymdeithasol wedi’i chomisiynu ar y cyd ar gyfer y nifer bach o blant a phobl ifanc sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth yng Nghymru.

 

Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddatblygu darpariaeth iechyd meddwl ddiogel yng Nghymru ar gyfer y nifer bach iawn o blant y mae angen y gofal hwn arnynt.

Dylai gofal preswyl ar gyfer plant ag anghenion cymhleth y mae angen darpariaeth iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, a darpariaeth iechyd meddwl ddiogel arnynt gael ei gomisiynu ar y cyd gan y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol. Dylai plant a’u teuluoedd allu cael mynediad i gymorth heb orfod mynd trwy’r system ‘gywir’ neu gael eu dal rhwng dwy adran.

Trosglwyddiadau

Argymhelliad 19 (2018). Bod Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni pwysigrwydd y cyfnod pontio o ran gallu parhau i ymgysylltu â’r gwasanaethau cymorth, a bregusrwydd penodol pobl ifanc wrth iddynt dyfu’n oedolion, yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol lunio adroddiad bob chwe mis:

·         yn nodi’r camau y maent wedi’u cymryd i sicrhau bod y canllawiau pontio yn cael eu gweithredu;

·         yn asesu i ba raddau y maent yn cydymffurfio â’r canllawiau; ac

·         yn nodi manylion yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth geisio darparu gwasanaethau pontio di-fwlch a sut y maent yn lliniaru’r risgiau hynny.

 

Argymhelliad J (2019). I ganlyn Argymhelliad 19 yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl, ac o ystyried gwendidau uwch pobl ifanc wrth iddynt ddod yn oedolion, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl ddewisiadau ar gyfer gwella trosglwyddiadau, gan gynnwys archwilio estyn CAMHS hyd at 25 oed, i ddarparu cyfnod estynedig i bobl ifanc symud i wasanaethau oedolion, yn hytrach na throsglwyddo ar unwaith i wasanaethau iechyd meddwl oedolion pan fyddant yn 18 oed.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Mae gwaith yn parhau i adolygu canllawiau a phasbort pontio Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc. Rwy’n falch bod y pasbort a’r canllawiau pontio ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc wedi cael eu hadolygu gan y Grŵp Rhanddeiliaid Ifanc Cenedlaethol.

 

Yn fwy cyffredinol, ar draws y gwasanaethau iechyd cyfan, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu bwrdd prosiect i ystyried y canllawiau pontio newydd, ac mae ymgynghori ar fin digwydd. Mae’n hanfodol bwysig bod iechyd meddwl yn rhan allweddol o’r canllawiau hyn. Mae rhai byrddau unigol yn ystyried modelau 0-25 oed.

 

Dylid adnewyddu’r pasbort a’r canllawiau pontio iechyd meddwl, yn dilyn ymgynghori helaeth a chyd-gynhyrchu â phobl ifanc.

 

Dylai’r canllawiau iechyd meddwl a’r canllawiau ehangach ar gyfer y gwasanaeth iechyd cyfan arwain at lwybrau pontio amlasiantaeth, trefnus i’r gwasanaethau oedolion; a dylid cynnwys plant a phobl ifanc yn uniongyrchol yn y gwaith o greu eu cynlluniau gofal.

 

Dylai’r ddwy set o ganllawiau hyn sicrhau hefyd fod pobl ifanc 16 a 17 blwydd oed sy’n cael mynediad i’r gwasanaethau iechyd am y tro cyntaf, gan gynnwys gofal brys, yn cael llwybr clir at ofal sy’n briodol i’w hoed.

 

Dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori’n uniongyrchol â phobl ifanc ynghylch y canllawiau pontio newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd cyfan yn ogystal ag ymgynghori â’r gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu amdanynt. Ni ddylai’r canllawiau newydd olygu bod y pasbort a’r canllawiau penodol ar iechyd meddwl yn cael eu gwanhau mewn unrhyw fodd gan fod y rhain yn hanfodol bwysig.

Therapïau seicolegol

 Argymhelliad 20 (2018). Bod Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni’r amrywiad presennol yn y ddarpariaeth a’r rôl hanfodol sydd gan ymyrraeth therapiwtig i’w chwarae, yn llunio cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer darparu therapïau seicolegol i blant a phobl ifanc. Fan lleiaf, dylai hyn gynnwys:

·         amlinelliad o’r modd y bydd y gwasanaethau sylfaenol, eilaidd ac arbenigol yn cydweithio i sicrhau bod ystod o wasanaethau therapiwtig yn cael eu darparu’n effeithiol ar draws y sbectrwm angen;

·         cynlluniau penodol ar gyfer datblygu a chynnal llif o ymarferwyr therapiwtig sydd wedi’u hyfforddi’n ddigonol (ac yn cael eu rheoleiddio / cofrestru);

·         manylion yr adolygiad arfaethedig o’r tueddiadau rhagnodi ar gyfer plant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl, gan adeiladu ar waith blaenorol yr Athro Ann John, gan gynnwys asesiad a yw ymyriadau eraill wedi effeithio ar y tueddiadau hyn, i ddechrau yn y 12-18 mis nesaf; ac

·          asesiad o oblygiadau ariannol a fforddiadwyedd y cynllun, a sut y caiff ei ganlyniadau eu mesur.

 

 

Argymhelliad K (2019). Dylai Llywodraeth Cymru weithio'n rhagweithiol gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau bod gweithlu CAMHS yn cael ei flaenoriaethu yn y strategaeth gweithlu 10 mlynedd. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am gynlluniau ar gyfer datblygu a chynnal llif o ymarferwyr therapiwtig sydd wedi eu hyfforddi'n ddigonol i ddarparu ymyriadau i blant a phobl ifanc.

 

Argymhelliad L (2019): I ganlyn Argymhelliad 20 yn ein hadroddiad Cadernid Meddwl, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fersiwn plant a phobl ifanc Matrics Cymru erbyn mis Rhagfyr 2019, ochr yn ochr â manylion am sut bydd hyn yn helpu i sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau therapiwtig ar draws y sbectrwm anghenion yn cael eu cyflwyno'n effeithiol i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Mae achosion wedi cyrraedd ein swyddfa sy’n dangos y dryswch ynghylch pwy gaiff wneud atgyfeiriadau therapi seicolegol. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys pobl ifanc sy’n dweud eu bod yn meddwl am hunanladdiad ond sydd heb gael cynnig therapi.

 

Mae fersiwn o Fatrics Cymru i bobl ifanc yn cael ei datblygu, ond ni chafodd ei chyhoeddi eto. Rwy’n falch o weld bod y mater hwn yn flaenoriaeth yng Nghynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

 

 

 

Meddyginiaeth a rhagnodi

Argymhelliad M (2019). Mae ein barn fel y'i mynegir yn Argymhelliad 20 o'n hadroddiad Cadernid Meddwl, sef bod angen adolygiad cenedlaethol o dueddiadau rhagnodi ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl, yn ddigyfnewid. Yn absenoldeb adolygiad o'r fath, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd pellach i ni am y mater hwn erbyn mis Rhagfyr 2019.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

 

 

 

Eiriolaeth

 Argymhelliad 21 (2018). Bod Llywodraeth Cymru, cyn pen chwe mis o ddyddiad yr adroddiad hwn, yn comisiynu adolygiad o’r gwasanaethau eiriolaeth a ddarperir ar hyn o bryd, a’r angen amdanynt, ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl – nid dim ond y rhai mewn lleoliadau cleifion mewnol. Dylid cynnal yr adolygiad hwn mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol megis y Comisiynydd Plant, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, darparwyr gwasanaethau a gomisiynwyd, a phlant a phobl ifanc. Yn seiliedig ar yr adolygiad, dylai Llywodraeth Cymru asesu pa mor Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru ddilys fydd darparu cynnig gweithredol o eiriolaeth i bob plentyn a pherson ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a dylai gyhoeddi adroddiad llawn o’i chasgliadau.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp sy’n cynnwys holl fyrddau iechyd Cymru, a darparwyr eiriolaeth, i edrych ar y cynnig presennol o ran eiriolaeth ar draws yr holl wasanaethau iechyd, a chytuno ar gasgliad o egwyddorion craidd y gall byrddau iechyd gytuno i weithio tuag atynt.

 

Gobeithir y bydd sail ddeddfwriaethol i’r gofyniad hwn i’r byrddau iechyd er mwyn sicrhau bod gwasanaeth ar gael ym mhob ardal. Ni fydd egwyddorion craidd ar eu pen eu hunain, heb gefnogaeth deddfwriaeth, yn sicrhau darpariaeth gyson ar hyd a lled Cymru.

 

Dylai pob plentyn yng Nghymru sydd ag angen eiriolaeth, lle bynnag y byddant yn y system iechyd, allu cael mynediad iddi. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig i blant ag anghenion iechyd meddwl.

 

Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu canllawiau statudol ar eiriolaeth mewn lleoliadau iechyd. Dylai’r grŵp eiriolaeth mewn lleoliadau iechyd gytuno ar set o egwyddorion craidd a fydd yn sail i’r canllawiau statudol, ac yn cynnwys darpariaeth i blant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl sy’n methu cael mynediad ar hyn o bryd i’r gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n gymwys o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl neu o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Mae angen i ni ddysgu o brofiad byrddau iechyd lle mae’r cynnig eiriolaeth yn ehangach na’r plant a’r bobl ifanc hynny sy’n cael eu cwmpasu gan eiriolaeth iechyd meddwl statudol ac eiriolaeth gofal cymdeithasol, gan adeiladu ar gontractau rhanbarthol y Dull Cenedlaethol o ran Gwasanaethau Eiriolaeth Statudol. Mae angen i ni wybod a yw’r cynnig hwn yn cael ei dderbyn, pa mor dda y caiff ei hysbysebu, a’r capasiti/argaeledd.

 

Plant sy’n agored i niwed (gan gynnwys plant sydd wedi derbyn gofal, plant sydd wedi'u mabwysiadu neu blant sydd â phrofiad o'r system cyfiawnder ieuenctid)

Argymhelliad 22 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws asiantaethau i sicrhau bod anghenion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn cael eu hasesu wrth iddynt gael mynediad i ofal ac ar ôl derbyn gorchymyn atgyfeirio o fewn y system cyfiawnder ieuenctid, ac fel mater o drefn ar ôl hynny. Bydd hyn yn helpu i gynllunio darpariaeth ddigonol o gymorth amlddisgyblaethol i ddiwallu eu hanghenion, sy’n gymhleth yn aml iawn, mewn modd amserol a phriodol.

 

Argymhelliad 23 (2018). Bod Llywodraeth Cymru, o fewn chwe mis i ddyddiad cyhoeddi’r adroddiad hwn, yn ymgymryd â darn o waith ar ddarparu cymorth emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl i blant sy’n derbyn gofal a phlant a fabwysiadwyd. Dylai hyn:

·         gael ei hysbysu gan weithgaredd y Grwp Cynghori Gweinidogol ar blant sy’n derbyn gofal a gwaith y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc; ac

·         ystyried, yn achos plant sy’n derbyn gofal, i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol i ddarparu’r cymorth corfforol ac emosiynol sydd ei angen arnynt.

 

Argymhelliad N (2019). Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o fanylion - a thystiolaeth - am ffrydiau gwaith y Cyd-grŵp Cynghori Gweinidogol ar ganlyniadau i blant, y rhaglen ymagwedd ysgol gyfan, a'r Rhaglen Gyda'n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, a'r ffaith eu bod yn gysylltiedig ac yn gweithio law yn llaw i sicrhau bod anghenion iechyd emosiynol a meddyliol y plant a'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn cael eu hasesu, a’u bod yn gallu cael gafael ar gymorth yn brydlon. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad manwl pellach i'r Pwyllgor ar hyn, ynghyd ag amserlenni ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Yn y cyfamser, rydym yn dal i bryderu’n fawr am ddarparu cymorth llesiant emosiynol ac iechyd meddwl i blant â phrofiad o ofal.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Gwelais rywfaint o gynnydd o ran yr agenda hon yn y gwaith rhanbarthol a gyflawnir gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ond dylem fod yn gwneud llawer mwy dros y grŵp hwn o blant a phobl ifanc, fel yr amlygwyd yn adroddiad NSPCC/VFCC Gwrando. Gweithredu. Ffynnu. Hefyd, dylai’r gwaith hwn ddefnyddio data defnyddiol, fel y papur y bydd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Meddwl Mewn Ysgolion yn ei gyhoeddi’n fuan ynghylch iechyd a llesiant meddyliol plant ‘sy’n derbyn gofal’, i lywio’r ddarpariaeth.

 

Rwy’n falch bod y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Ganlyniadau i Blant yn ymwneud â’r trefniadau newydd ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

 

 

Mae anghenion penodol plant sydd â phrofiad o ofal yn cael eu cynrychioli ym mhob ffrwd waith, ac mae plant sydd â phrofiad o ofal wedi cyd-gynhyrchu gwaith y ffrydiau gwaith hyn.

Yn yr un modd â phob elfen o’r trefniadau newydd, hoffwn weld sicrwydd y bydd mecanweithiau cadarn ar waith i oruchwylio’r ffrydiau gwaith, sydd hefyd yn gallu sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cyfrannu’n weithredol o ran cynllunio a chyflawni’r ffrydiau gwaith hyn.

Gweithio gyda'r trydydd sector

Argymhelliad 24 (2018). Bod Llywodraeth Cymru, o fewn tri mis i’r adroddiad hwn, yn gweithredu ar y dystiolaeth a gafwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fod angen iddi sefydlu grŵp trosfwaol “gyda dannedd” i reoli’r cydweithio sydd ei angen rhwng sefydliadau statudol a sefydliadau’r trydydd sector er mwyn darparu gwasanaethau cymorth ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn effeithiol ac amserol.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Cafodd yr argymhelliad hwn ei wrthod gan Lywodraeth Cymru yn 2018.

 

Rwy’n clywed sefydliadau trydydd sector yn dweud yn rheolaidd nad oes ganddynt gysylltiad mor agos â chynlluniau Llywodraeth Cymru. O ran y dull ysgol gyfan, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i bennu’r ‘dewisiadau’ seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael i ysgolion, gan fod llawer o’r rhain yn cael eu darparu gan y trydydd sector.

 

Rwy’n rhoi sgôr oren yma am nad yw’r grŵp cyfeirio rhanddeiliaid ar y dull ysgol gyfan yn cynnwys aelodau o nifer o sefydliadau trydydd sector.

 

Dylai partneriaid o’r trydydd sector fod yn rhan o wead y cynlluniau ar gyfer y dull system gyfan gan eu bod nhw’n gwbl hanfodol i’w lwyddiant.

Dylai cynrychiolwyr y trydydd sector fod â phresenoldeb ym mhob ffrwd waith o dan y trefniadau newydd.

Y gweithlu

Argymhelliad 25 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn ymateb yn brydlon ac yn gynhwysfawr i arolygon ar niferoedd y gweithlu a wneir gan y Colegau Brenhinol yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i ddylunio gwasanaethau sy’n ystyried y capasiti staffio ac ymateb mewn modd effeithiol ac arloesol i unrhyw brinder.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Rwy’n croesawu sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Mae croeso hefyd i’r maes gwaith newydd a gaiff ei arwain gan AaGIC a’i gefnogi gan Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ar ddiwedd 2019.

 

Caiff materion gweithlu eu codi gyda mi yn barhaus pan fyddaf yn cyfarfod â gweithwyr proffesiynol.

 

Dylai fod gennym weithlu sy’n darparu darlun tebyg ar hyd a lled Cymru – mae’r sefyllfa bresennol yn golygu bod pobl ifanc sy’n derbyn darpariaeth iechyd a lles meddyliol yn wynebu loteri côd post o ran yr hyn sydd ar gael a’r amseroedd aros cyn gweld gweithwyr proffesiynol er mwyn cael cymorth gyda’u hanghenion, boed hynny’n gymorth seicolegol, seiciatryddol, therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol, ac ati.

Bydd angen i’r gwaith ar y cyd rhwng AaGIC a Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc ddechrau’n gyflym.

Gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

Argymhelliad 26 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc yn gwneud darn penodol a chynhwysfawr o waith ar y gwasanaethau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl sydd ar gael yn Gymraeg.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Ni welais yr un arwydd bod gwaith sylweddol wedi’i wneud ar y mater hwn.

 

Nid yw dogfennau cyhoeddus Llywodraeth Cymru ynghylch y trefniadau newydd ar gyfer meysydd gwaith yn dilyn ymestyn Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc yn awgrymu y bydd darn cynhwysfawr o waith yn cael ei wneud.

 

Fodd bynnag, rwy’n falch bod Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cydnabod bod y gwaith hwn yn flaenoriaeth.

 

Mae angen cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o’r argaeledd presennol a’r argaeledd yn y dyfodol, a dylid rhoi cynlluniau ar waith i wella’r ddarpariaeth yn Gymraeg.

Mae angen sefydlu mecanwaith i adolygu’r sefyllfa o ran gwasanaethau yn Gymraeg.

Adrodd a data

Argymhelliad 27 (2018). Bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lunio adroddiadau am eu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc mewn ffordd unffurf er mwyn eu gwneud yn fwy atebol a thryloyw. Dylai’r data hwn gynnwys gwybodaeth am bob gwasanaeth, nid gwasanaethau eilaidd CAMHS arbenigol yn unig, a dylid ei ddadansoddi fesul maes (ee sylfaenol, eilaidd, argyfwng, therapiwtig, y trydydd sector ac ati). Dylai’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd fel y gellir dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif o ran fforddiadwyedd, blaenoriaethu a gwerth am arian y gwasanaethau a ddarperir.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Nid yw’n ymddangos bod yr wybodaeth hon ar gael mewn ffordd unffurf, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor.

 

Cyflawnwyd ymarferion rhannu data defnyddiol, fel dadansoddiad Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn 2019, ond nid yw’r wybodaeth hon ar gael mewn ffordd dryloyw o hyd.

 

Mae’r Pwyllgor ei hun wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yng Nghymru i ofyn am yr wybodaeth hon. I’r graddau y mae hynny’n bosibl, dylai’r wybodaeth fod ar gael yn hwylus heb orfod cysylltu’n rhagweithiol â byrddau iechyd unigol i’w chael.

 

Dylai’r holl Fyrddau Iechyd allu darparu’r wybodaeth hon yn hwylus ar eu gwefannau.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Byrddau Iechyd i sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael yn yr un ffurf, yn ardal pa fwrdd iechyd bynnag y mae’r gwasanaethau.

Gwaith ieuenctid

Argymhelliad O (2019). Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau, yn ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2020-21, ac mewn blynyddoedd ariannol yn y dyfodol, fod cyllid digonol yn cael ei ddyrannu i waith ieuenctid i gydnabod y rôl hanfodol sydd ganddo i'w chwarae wrth gynorthwyo llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

 

Sgôr: Coch, Oren, Gwyrdd

Pam eich bod chi wedi rhoi'r sgôr hwn?

Yn realistig, ble y dylem fod wedi’i gyrraedd erbyn mis Ebrill 2021?

Beth sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan honno?

 

 

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi  ymrwymo i ddarparu’r un lefel o gyllid penodol â’r llynedd ar gyfer adnabod a chefnogi pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a llesiant emosiynol trwy’r Grant Cymorth Ieuenctid.

 

Fodd bynnag, mae hwn yn faes oren oherwydd, yn sicr, nid yw gwasanaethau ieuenctid ar gael i’r holl bobl ifanc y mae eu hangen arnynt yn y ffordd yr hoffwn ei gweld.

 

Mae’r gwariant ar wasanaethau ieuenctid yng Nghymru wedi gostwng £19m mewn termau real ers 2010/11. Mae hyn yn cyfateb i ostyngiad o 38% mewn gwariant, o £50m yn 2010/11 i £31m yn 2018/19.[2]

Dylai pob plentyn sydd ag angen yng Nghymru allu cael gafael ar gymorth iechyd a llesiant meddyliol trwy wasanaeth ieuenctid lleol a hwylus sydd hefyd yn darparu cyfleoedd i gymdeithasu a datblygu sgiliau bywyd a mynediad i gyfleoedd yn y gymuned leol.

Dylai swyddogion Llywodraeth Cymru o’r adrannau iechyd ac addysg a thîm y dull ysgol gyfan gydweithio’n agos â’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid i fwyafu’r  potensial i weithio mewn modd integredig wrth i’r gwasanaeth ieuenctid gael ei ailwampio; a dylent sicrhau bod y dull ysgol gyfan yn cael ei integreiddio yng ngweithrediad y Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

 



[1] https://llyw.cymru/cwnsela-ar-gyfer-plant-phobl-ifanc-medi-2017-i-awst-2018

[2] https://www.ymca.org.uk/wp-content/uploads/2020/01/YMCA-Out-of-Service-report.pdf